Rydych chi’n mynd i wrando ar eitem o raglen radio. Dyma ychydig o help i chi os ydych chi eisiau help.
HelpGeirfa | |
ar draws y byd | all over the world |
ymlacio | to relax |
felly | therefore |
heini | fit |
ymarfer | to train |
campfa | gym |
yn iach | healthily |
hyderus | confident |
yr Wyddfa | Snowdon |
mynyddoedd | mountains |
balch | proud, pleased |
ers amser | for a long time |
siomedig | disappointed |
cefnogi | to support |
mor | so |
Cyflwynydd: Croeso i raglen arall o Da iawn chi! ... Yn y stiwdio heddiw, mae Fiona Morris ... Mae hi wedi rhedeg mewn marathonau ar draws y byd ... Croeso i’r rhaglen, Fiona.
Fiona: Diolch yn fawr.
Cyflwynydd: Pam ydych chi’n rhedeg marathonau?
Fiona: Achos dw i wrth fy modd yn rhedeg ... Dw i’n ymlacio. ... Does dim problemau pan dw i’n rhedeg ... Mae popeth yn wych pan dw i’n rhedeg.
Cyflwynydd: Rydych chi’n rhedeg i ymlacio, felly.
Fiona: Ydw. Dw i wrth fy modd yn rhedeg ac, wrth gwrs, mae rhedeg yn dda iawn i chi.
Cyflwynydd: Rydych chi’n heini iawn, felly.
Fiona: Ydw, dw i’n meddwl.
Cyflwynydd: Pryd ydych chi’n ymarfer?
Fiona: Dw i’n trio ymarfer bob nos Fawrth, nos Fercher, nos Iau, dydd Sadwrn a dydd Sul.
Cyflwynydd: Beth arall ydych chi’n wneud i gadw’n heini?
Fiona: Wel, dw i’n nofio ... dw i’n chwarae badminton ... a dw i’n mynd i’r gampfa bob dydd Sadwrn ... a dw i’n bwyta’n iach hefyd.
Cyflwynydd: Sut ydych chi’n teimlo ar ddechrau marathon? Ydych chi’n nerfus?
Fiona: Wel, roeddwn i’n nerfus ar y dechrau – chwe blynedd yn ôl – ond dw i ddim yn teimlo’n nerfus nawr. A bod yn onest, dw i’n teimlo’n eitha hyderus achos dw i wedi ymarfer llawer ... a dw i’n heini.
Cyflwynydd: Rydych chi wedi rhedeg yn Ras yr Wyddfa.
Fiona: Ydw. Roedd rhaid rhedeg i fyny ac i lawr y mynyddoedd ... ond roedd hi’n hwyl ... ac roeddwn i’n hapus iawn yn rhedeg drwy’r mynyddoedd hardd. Roeddwn i’n teimlo’n falch iawn i redeg yn y marathon yma achos roeddwn i eisiau rhedeg yn y ras yma ers amser.
Cyflwynydd: Ydych chi’n teimlo’n siomedig weithiau – ar ôl ras, efallai?
Fiona: Nac ydw. Dw i’n hapus pan dw i’n rhedeg. Os ydw i’n gwneud yn dda – gwych! Os dw i ddim yn gwneud yn dda – dim problem!
Cyflwynydd: Beth mae’r teulu’n feddwl?
Fiona: Maen nhw’n hapus iawn ... Maen nhw’n falch iawn hefyd ... ond weithiau maen nhw’n nerfus ... Dw i ddim yn nerfus – ond maen nhw!
Cyflwynydd: Mae’r teulu’n eich cefnogi chi felly.
Fiona: Ydyn ... Dw i’n teimlo’n lwcus iawn i gael teulu mor wych.
Cyflwynydd: Beth nesa?
Fiona: Dw i’n mynd i redeg ym marathon Amsterdam ym mis Hydref. Dw i’n teimlo’n gyffrous iawn.
Cyflwynydd: Pob lwc i chi, Fiona.
Fiona: Diolch yn fawr iawn.