Rhifyn 14 - Disgrifio

Cryf?

Rydych chi’n mynd i wylio ffilm. Cyn gwylio, dyma ychydig o help i chi os ydych chi eisiau help.

Geirfa
   
heddlu police
yn grac, yn flin, yn ddig angry, cross
yn wyllt gacwn furious
waled wallet
mygio to mug
bwrw to hit
os if
pa fath o what kind of
cryf strong
fel chwaraewr rygbi like a rugby player

Rhannau’r corff (Parts of the body)
   
gwallt hair
llygaid eyes
trwyn nose
ceg mouth
dannedd teeth

Loading the player...
Sgript
   

Carwyn:

 

Iawn … Diolch yn fawr am eich help. Diolch … diolch … Hwyl fawr.

 

Aled:

Carwyn:

 

Aled:

Carwyn:

Aled:

 

Carwyn:

Aled:

Carwyn:

Aled:

Carwyn:

Aled:

 

Carwyn:

Aled:

Pwy sy ar y ffôn?

Helo, Aled.

 

O, helo, Carwyn. Pwy sy ar y ffôn?

Yr heddlu.

Yr heddlu?!? Www - pam mae’r heddlu'n ffonio? Wyt ti wedi torri i mewn i’r banc?

 

Ha! ha!

Wel …?

Wel beth?

Wel, pam mae’r heddlu'n ffonio?

Wel ..
Dw i’n gwybod … rwyt ti wedi bod yn gyrru’r car yn rhy gyflym … www … wyt ti’n fachgen drwg, Carwyn?

 

Nac ydw.

Wel, pam mae’r heddlu'n ffonio ‘te?

Aled:


Carwyn:


Aled:


Carwyn:

 

Aled:

Beth sy wedi digwydd? ... Wyt ti’n iawn?


Ydw, dw i’n iawn – ond dw i’n grac iawn.


Yn grac?


Ydw, dw i’n grac yn flinyn ddigyn wyllt gacwn!


Yn wyllt gacwn – bobl bach, beth sy wedi digwydd?

Carwyn:

Aled:


Carwyn:

Aled:

Carwyn:

 

Aled:

Carwyn:

Aled:

Carwyn:

Aled:

Carwyn:

Aled:

Carwyn:

Aled:

Carwyn:

Roeddwn i’n siopa.

O, ie – siopa! Grêt!

Prynais i pizzas … letys … ciwcymbr … tomatos a ffrwythau.

O ... grêt!

Roeddwn i’n cerdded i lawr y stryd, yn cario’r bag - y pizzas … y letys … y ciwcymbr … y tomatos … y ffrwythau …
Ie, ie – y siopa.

Roedd fy waled i ym mhoced fy nhrowsus i ac, yn sydyn, daeth dyn i fyny a mygio fi.

Mygio?!?!

Ie, mygio.

Bwrodd e fi ar fy nhrwyn – poenus iawn, iawn.

O, diar

Rhoiais i fy mraich allan i stopio’r dyn – fel hyn.

Fel hyn?

Bwrodd e fi ar fy mraich – poenus iawn, iawn.

O, diar.

Ble mae dy waled di nawr?

Carwyn:
Aled:
Dw i ddim yn gwybod.
O diar.
Aled: Ble mae’r bag gyda’r bwyd?
Carwyn: Dw i ddim yn gwybod ... gyda’r dyn.
Aled:
Carwyn:
Aled:
Carwyn:
Aled:
Beth oedd yn y waled?
Arian – tua wyth deg punt.
Wyth deg punt?!?! Beth arall?
Cardiau – a llun o Dwynwen.
Beth wnest ti?

Carwyn:

 Es i at yr heddlu ac maen nhw’n mynd i ffonio os bydd newyddion.

Aled:
Carwyn:

Pa fath o ddyn oedd e?
Wel, roedd e’n dal … yn fawr … roedd e tua un deg pedwar stôn. Roedd e fel chwaraewr rygbi.

 

Aled:

 

Carwyn:

Aled:

Carwyn:

Aled:

 

Carwyn:

Aled:

 

Carwyn:

Aled:

 

Carwyn:

Aled:

 

Carwyn:

Aled:

 

Carwyn:

Aled:

Carwyn:

  

Aled:

Un deg pedwar stôn? Bobl bach – mawr!

Arhosa funud.  Dw i eisiau gwneud llun – fel mae’r heddlu'n gwneud ffotoffit.

Disgrifia’r dyn.

Wel, roedd e’n dal … roedd e’n fawr ... roedd e’n gryf ...

Yn fawr ac yn gryf - tua un deg pedwar stôn, ie?

Ie – yn fawr ac yn gryf... Roedd e’n gwisgo crys T coch, trowsus gwyrdd ac esgidiau gwyn.

Crys T coch, trowsus gwyrdd ac esgidiau gwyn.

Pa liw oedd ei wallt e?

Du – gwallt du – mop o wallt du cyrliog – ac roedd e’n gwisgo het ddu hefyd.

Mop o wallt du cyrliog ... a ... het ddu.

Pa liw oedd ei lygaid e?

Glas, dw i’n meddwl.

Llygaid glas.

Beth am ei drwyn e?

Trwyn mawr – fel trwyn eliffant.

Trwyn mawr fel trwyn eliffant, bobl bach!

Beth am ei geg e?

Ceg fawr gyda dannedd brown ych a fi.  O ych a fi!

Ceg fawr gyda dannedd brown.

Dyma’r dyn?

Na – Aled! ... Wyt ti eisiau coffi?

Os gwelwch yn dda, Carwyn.

O, diar. Dim llaeth. Dw i’n mynd i’r siop i brynu llaeth.

Iawn.

 

Aled:

 

 

 

 

 

 

 

Helo.
(Saib)
Na – Aled , ffrind Carwyn ... Dydy Carwyn ddim yma. ... Mae e yn y siop yn prynu llaeth.
(Saib)
Iawn … neges i Carwyn.
(Saib)
Gwych – rydych chi wedi ffeindio waled a siopa Carwyn. Da iawn!
(Saib)

 Aled: 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rydych chi wedi arestio dyn … ardderchog.
Beth mae e’n gwisgo?
(Saib)
Crys T coch … trowsus gwyrdd ... esgidiau gwyn a het ddu.
Iawn – grêt.
(Saib)
Problem? O?
(Saib)
Dyn byr? Bach – tua wyth stôn ... Wyth stôn!?!?!?!? ... gyda gwallt brown … a llygaid llwyd. O?
(Saib)
Beth am ei drwyn e?
(Saib)
Trwyn bach fel marbl? Wel, wel.
(Saib)
Beth am ei geg e?
(Saib)
Ceg fawr heb ddannedd.
Dim dannedd? Bobl bach.
(Saib)
Ydych chi’n siŵr o’r dyn yma?
(Saib)
O ... roedd e’n cario waled ... a siopa Carwyn.
Wel, dyna ni, te. Diolch yn fawr iawn.
Rhyfedd!