Rhifyn 15 - Mynegi barn

Hwyl!

   

Jo:

Wyt ti eisiau dod i drampwalio gyda fi?

Ceri:

Trampwalio? Beth ydy trampwalio?

Jo:

“Trampwalling”?

Ceri:

Beth ydy “trampwalling”?

Jo:

Wel, dyma gliwiau i ti - mae’n hwyl ... mae’n wych ... mae’n beryglus.

Ceri:

Beth? 

Jo:

Wyt ti eisiau mwy o gliwiau?

Ceri:

Ydw, os gwelwch yn dda.

Jo:

Rhaid neidio ar drampolîn.

Ceri:

O – trampolinio.

Jo:

Na – dim trampolinio.

Ceri:

Dim trampolinio? Ond “rhaid neidio ar drampolîn.”

Jo:

Rhaid neidio a neidio ar y trampolîn ... rhaid neidio a neidio – yn uchel iawn – ac yna rhaid glanio ar ben wal.

Ceri:

Beth? Neidio ... a glanio ar ben wal?

Jo:

Dyna ni – neidio a glanio ar ben wal ... ac yna neidio i lawr ar y trampolîn a dechrau eto. Wyt ti eisiau dod?

Ceri:

Wel, ... mmm ... ble wyt ti’n mynd?

Jo:

I’r ganolfan drampwalio. Mae canolfan newydd yn y dref.

Ceri:

Iawn – faint o’r gloch?

Jo:

Tua hanner awr wedi pedwar? Dere i fy nhŷ i am hanner awr wedi pedwar.

Ceri:

Beth mae pobl yn gwisgo i drampwalio?

Jo:

Dillad trampolinio.

Ceri:

Wela i di.

Jo:

Wela i di.

 

Ydych chi eisiau gweld pobl yn trampwalio? 

Cliciwch yma: 

https://www.youtube.com/watch?v=X29nipwWQFM

http://hkpklv.com/classes/trampwall/

Geirfa
   
cliwiau clues
peryglus dangerous
mwy o more
uchel high
glanio (to) land
ar ben on top of
canolfan centre
dere come
wela i di see you