Dw i’n cael amser ffantastig yn Nhywyn, Gogledd-orllewin Cymru. Wythnos diwetha, rhedais i ras yn erbyn y trên. Roedd 500 o bobl yn rhedeg. Roedd rhai o Brydain ond roedd rhai wedi teithio o Seland Newydd, Awstralia, Hong Kong, Affrica ac America.
Roedd y ras yn 14 milltir – o’r orsaf yn Nhywyn i Abergynolwyn ac yn ôl. Roedd y ras yn gyffrous iawn achos roedd y cwrs yn anodd ac roedd pobl yn gweiddi, “Rhedwch!”, “Brysiwch”, “Daliwch ati!” Curais i’r trên – rhedais i mewn 1 awr a 50 munud.
Dw i eisiau gwneud hyn y flwyddyn nesaf eto.
Wela i chi ddydd Sadwrn.
Cariad
Chris