Sut mae bwyta’n gwrtais wrth y bwrdd?
1. Cymru
Bwytwch yn dawel a bwytwch bopeth ar y plât.
2. Mexico
Defnyddiwch y gyllell yn y llaw dde a’r fforc yn y llaw chwith. Peidiwch defnyddio’r gyllell yn y llaw chwith a’r fforc yn y llaw dde.
3.Norwy
Defnyddiwch gyllell a fforc i fwyta popeth – brechdanau hefyd.
4. Ffrainc
Peidiwch defnyddio cyllell i dorri’r bara ar eich plât chi. Torrwch y bara yn eich dwylo chi.
5. Portiwgal
Peidiwch gofyn am bupur a halen. Mae’n anghwrtais achos mae’n dweud, “Dydy’r bwyd ddim yn flasus.”
6. Yr Aifft
Peidiwch bwyta popeth ar y plât. Mae bwyta popeth yn dweud, “Dw i eisiau mwy os gwelwch yn dda.”
7. Twrci
Mae torri gwynt ar ôl bwyta yn gwrtais – mae’n dweud, “Dw i wedi mwynhau’r bwyd, diolch yn fawr.”
8. India
Golchwch eich dwylo a’ch ceg chi cyn bwyta. Defnyddiwch eich llaw dde i fwyta – dim y llaw chwith achos mae’r llaw chwith yn frwnt neu’n fudr. Llyfwch eich bysedd i ddangos, “Dw i wedi mwynhau’r bwyd.”
9. Gwlad Thai
Peidiwch defnyddio’r fforc i roi'r bwyd yn eich ceg chi. Defnyddiwch y fforc i roi’r bwyd ar y llwy a rhowch y llwy yn eich ceg chi.
10. China
Mae torri gwynt ar ôl bwyta yn gwrtais – mae’n dweud, “Dw i wedi mwynhau’r bwyd.” Peidiwch rhoi chopsticks i sefyll yn y bowlen.
11. Japan
Bwytwch bopeth ar y plat. Mae’n dweud, “Dw i wedi mwynhau’r bwyd.” Gwnewch sŵn slurp pan rydych chi’n bwyta sŵp neu nwdls. Mae’n dweud, “Dw i’n mwynhau’r bwyd.”
Help
Geirfa | |
cwrtais | polite |
popeth | everything |
cyllell | knife |
llaw | hand |
defnyddio | to use |
pupur a halen | pepper and salt |
anghwrtais | impolite |
dweud | to say |
torri gwynt | to burp, belch |
cyn | before |
llyfu | to lick |
llwy | spoon |
fork
Norway
France