Mae cysgu’n dda bob nos yn bwysig achos:
Ond sut mae cysgu’n dda? Dyma rai syniadau:
Dim edrych ar raglenni cyffrous ar y teledu neu’r cyfrifiadur cyn mynd i’r gwely.
Dim chwarae gemau cyffrous ar y tabled yn y gwely.
Hefyd:
Rhaid cael ystafell dawel – dim sŵn.
Gwnewch ymarfer corff yn y dydd.
Ymlaciwch – darllenwch yn y gwely os ydych chi eisiau.
Ewch i’r gwely yr un amser bob nos.


Os dydych chi ddim yn gallu cysgu mewn tri deg (30) munud – darllenwch (dim llyfr cyffrous!) neu gwrandewch ar gerddoriaeth dawel. Peidiwch edrych ar y cloc eto ... ac eto ... ac eto ... neu byddwch chi’n teimlo o dan straen.
Nos da!
Help| Geirfa | |
| pwysig | important |
| teimlo | to feel |
| syniadau | ideas |
| ar ôl | after |
| cyn | before |
| gormod | too much |
| diod | drink |
| tawel | quiet |
| ymarfer corff | physical exercise |
| ymlacio | to relax |
| yr un amser | the same time |
| gallu | can, to be able to |
| teimlo o dan straen | to feel stressed |