Mae Sam Jones yn mwynhau hobi diddorol iawn.
SgwrsSam: Beth wyt ti’n mwynhau, Tom?
Tom: Dw i’n mwynhau chwaraeon.
Sam: Pa fath o chwaraeon?
Tom: Dw i’n mwynhau pêl-droed ... rygbi ... nofio ... a gymnasteg ... ond mae un gamp dw i’n mwynhau’n fawr iawn.
Sam: O?
Tom: Daearu.
Sam: Daearu?
Tom: Ie, daearu – y term Saesneg ydy earthing.
Sam: Beth ydy daearu?
Tom: Rhedeg a nofio.
Sam: O? ... Rhedeg a nofio?
Tom: Dyma sut mae’n gweithio. Rhaid rhedeg yn gyflym am chwe deg metr.
Sam: Chwe deg metr?
Tom: Ie – chwe deg metr. Rhaid rhedeg heb esgidiau – ar gwrs arbennig.
Sam: Iawn – rhedeg heb esgidiau – ar gwrs arbennig.
Tom: Yna, ar ddiwedd y cwrs, mae disg arbennig ... a rhaid deifio o’r disg i mewn i bwll nofio.
Sam: Deifio o’r disg i mewn i’r pwll nofio, bobl bach!
Tom: Dyna ni... Yna rhaid nofio am bum deg metr.
Sam: Felly, rhaid rhedeg am chwe deg metr ... rhaid deifio o’r disg i mewn i’r pwll nofio ... ac yna rhaid nofio am bum deg metr.
Tom: Dyna ni.
Sam: Mae’n swnio’n hwyl.
Tom: Ydy, mae’n llawer o hwyl!
Mae ras daearu yn gyflym.
Os ydych chi eisiau gweld y ras, cliciwch yma.
Geirfa | |
Pa fath? | What kind? |
camp | sport |
heb | without |
cwrs | course |
swnio | to sound |
cwrs
disg